Efo’n llygad bach i…..

Mae wedi bod yn ddiwrnod hir. Wedi bod yn gweithio; yn gorfoleddu ar ôl torri trwy’r wal pan na fûm yn medru sgwennu am wythnosau – a chredwch fi, mae hynny’n achos gorfoledd. Wedyn yn galaru, yn rhyfeddu, yn chwarae, ac yn dathlu.
Cael y gwaith o’r ffordd rhwng chwech a saith y bore, ac yna sgwennu tri phwt am gymeriadau fy ail nofel. Tydw i ddim yn poeni na fydd y pytiau fwy na thebyg yn gweld golau dydd hyd yn oed os gwnaiff fy nofel. Dwi wedi medru sgwennu eto. Sgwennu fel petawn i’n mwynhau gwneud hynny. Anghofio’r targedau a’r cynllun, a jest sgwennu. Mae mor syml. Mae’n rhywbeth yr oeddwn mewn peryg o’i anghofio.

Yna’r galaru ganol bore. Dwn i ddim os mai galaru oedd o, chwaith, yn angladd Gerallt. Roedd hi’n ddiwrnod mor braf. Mor braf â’r dydd hwnnw yno haf crasboeth 1975, pan waeddais i ar draws lawnt carchar agored yn Swydd Stafford ar ddwy o gyd-garcharorion Cymdeithas yr Iaith ddaethai ata’i yr wythnos honno – “Gerallt Lloyd Owen gafodd y gadair!” Oedd ond yn cadarnhau barn gweddill fy nghyd-garcharorion amdana’i, am wn i, mod i’n hollol boncvrs, ond pa ots am hynny? Roedd yna afon yn rhedeg i’m cysylltu i, yr holl ffordd o Fro Dwyfor i Moor Court. Bora ma, ar waetha’r haul, roedd yna afon arall. Ddyfnach. Oerach.

A ddiwedd y pnawn, roeddwn efo criw yn nodi llwyddiant busnes cynhenid Cymreig yng Nghaernarfon. Cymry yn creu busnes. Fel y gwnaeth Gerallt, pan oedd Cymry ddim i fod i wneud ffasiwn beth.

A’r chwarae? Efo fy wyres yr oedd hynny, dros Rabar ac yng ngardd fy nhŷ. Ei gyrru hi adra wedyn i’r dre, chwarae gêm yn y car fel mae hi’n mynnu bob tro. “Dwi’n gweld efo’n llygad bach i” oedd hi tro ‘ma, ac wedi iddi hi ddyfalu fy nhipyn ymgais i yn gywir, ei thro hi oedd o. “Dwi’n gweld efo’n llygad bach i – rwbath yn dechra efo ‘Ll’.” Y llinell wen ar y lôn oedd o, fel mae’n digwydd. Ond jest am funud, dyma fi’n meddwl: ai gweld llais wyt ti, Sioned fach?

Leave a comment

Filed under Uncategorized

Leave a comment