Doctor Pwy?

Dyma fi’n ddoctor. Doethur. Dwi ddim yn teimlo’n ddoeth. Ond dwi’n falch. Am i mi sgwennu fy ngwaith, esbonio fy ngwaith, a’i gyfiawnhau. A chael gradd – PhD. Caredigrwydd pobl yn llifo drosta’i – ond mae na un peth.
Ydw i’n mynd i alw fy hun yn ddoctor?
Mae gen i esiampl ffrind sydd byth yn defnyddio’i theitl blaw pan mae hi isio upgrade – “Lady ***** would like…” (A mae o’n gweithio!) Go dda hi! Ond fi. Ddim Doctor Elis fydda’i. Achos Mam oedd Doctor Ellis. (A nhad hefyd).
Yn ei blynyddoedd ola, pan oedd ganddi hi ofalwyr yn dwad i’w helpu, ‘Dr Ellis’ fyddan nhw’n ei galw hi’n ddi-ffael. Dangos parch. A dyna dwi’n gofio – fy mam glyfar, ddeallus, a’m hysbrydolodd, oedd yn medru siarad efo fi am fy ngwaith tan y dwytha un, jest. Hi oedd biau’r teitl; yna, gafodd hi er anrhydedd, ond oedd hi’n ei haeddu am ei gwaith beth bynnag .Fydda i byth yn Dr Elis.
Felly pwy ydw i? A ydi hyn yn ddiwedd Sali Mali?
Ateb yr ail gwestiwn. Dwi’m yn meddwl. Ella y gwna’i ddal i flogio am sgwennu – gawn ni weld ar ba ffurf. Ella y daw @doctormeg i’r golwg weithia – pan fydda’i yn laru gormod ar Sgymraeg a iaith robot – gawn ni weld.
Creadigaeth newydd – Sali Mali Deeply? Mi fydd hon yn blogio am bolitics – yn y ddwy iaith.

Am rwan – ista’n ol.Gwneud dim ond gwaith ty. Ond rhowch wsnos ac mi fydd yr awydd sgwennu yn codi eto.

Leave a comment

Filed under Uncategorized

“O hen fleiddiast o flwyddyn…”

Llynedd oedd honna, a finna’n darllen y geiriau mewn angladd yn gynnar yn y flwyddyn newydd, heb sylweddoli mor berthnasol fyddai geiriau Twm Morys i 2015 hefyd.
Buan iawn y daeth y sylweddoliad. Colli John Davies, Mered, John Rowlands, Dewi Watkin Powell, Nigel Jenkins, Geraint Gruffydd a chymaint eraill. A tydyn nhw i gyd yn pylu? Am mai yn 2015 y collais i Mam.

Doeddwn i ddim yn teimlo’n od am fy mod i’n llenor. Diolch i Mam. Roedd gen i rywun i siarad efo hi am fy sgwennu, heb deimlo’n ffrîc. Diolch i Mam. A siarad am y plant, a choginio, a theithio, ac eglwysi, a Chymru. A gwneud PhD yn yr un adran, yr un Prifysgol lle bu hi’n astudio. Roedd Mam yn dallt. A rwan mae hi wedi mynd.

Gwynt teg ar ôl yr hen flwyddyn felltith yma. Fel tasa cyflwr y byd ddim yn ddigon, mae trychinebau teuluol: un ferch yn torri’i choes, cymar un arall yn colli rhan o’i goes, fy mab ymhell, fy nghymar yn cael triniaeth am ganser, gorlif dŵr yn nhŷ fy mrawd. A mae Mam wedi mynd.

Dyna oedd y cwmwl. A dwi’n trio gweld y goleuni. Mi briododd fy merch ei chymar – ac mi safodd yntau drwy’r seremoni, ar waetha be ddeudodd y meddygon – “Mewn cadair olwyn bydd o.” Mae fy nghymar yma o hyd, ar waetha be ddeudodd y meddygon – “Chydig fisoedd – fedrwn ni neud dim ond lleddfu.” Mi fuo fy merch arall Ar y Dibyn (ar S4C – cyn torri ei choes, dwi’n prysuro i ychwanegu, a doedd a wnelo’r rhaglen ddim â hynny!) Ac mi gyhoeddais i fy nofel.

A dwi isio rhannu hyn i gyd efo Mam. A tydi hi ddim yma. Ond ar ddiwedd y flwyddyn erchyll, dwi’n edrych ymlaen, fedra’i wneud dim arall, dim ond gobeithio mai dyma wnaiff y byd – a Chymru. Darllen englyn Gruffydd Antur i Dafydd Wyn Jones, un arall o golledion 2015, ac ydw i yn anghywir yn gweld gobaith yn ei linell olaf?
“Mae’r henwyr? Meirw yw’r rheini,- a ninnau
drueiniaid yn cyfri’r
siwrwd sêr dan y deri
sy’n gadael neb, neb ond ni.”

Leave a comment

Filed under Uncategorized

Tawelwch cefn gwlad….

“Dach chi ddim yn mynd i fod yn styc yn tŷ ar ddiwrnod mor braf!” (merch)
“Ewch i rywle hollol wahanol i sgwennu,a gweld beth ddaw.” (goruchwylwraig)
“Rheswm bod gynnoch chi boen yn eich cefn ydi’ch bod chi’n ista wrth eich cyfrifiadur am oriau bwygilydd.” (meddyg)

Er mwyn cael llonydd rhag yr amryfal leisiau hyn, a hefyd am fy mod wedi bod yn styc yn y tŷ, yn yr un hen le, ac ydi, mae ‘nghefn i’n brifo fel y ****, dyma fi ganol pnawn yn meddwl – reit allan a fi i’r ardd. (Wel, mae’r syniad o fynd i ffwrdd i draeth pellennig yn swnio’n neis, ond sgin i ddim mynadd efo straffîg pacio popeth i’r car i fynd i unrhyw draeth, a sut bynnag, dwi fod i fynd i ganfasio ‘mhen awr…)

Cadair, llyfr sgwennu, sbectol a diod lemon cartra – be fasa well? Anghofio fy mhen sgwennu. Naci, nid y tri beiro sydd gen i wrth law, ond yr un mae’n rhaid i mi gael i sgwennu yn greadigol. Nôl i’r stydi i’w nôl o. Setlo. Meddwl am sbel yn yr haul – braf, mi ddaw syniada rwan..

Nes y daw’r lori i gludo llwyth o sment i’r tŷ maen nhw’n adeiladu lawr y lôn. Lawr y lôn gul lle na fedar lori fynd – dwi’n gwybod, achos dwi wedi ista trwy’r ddrama yma o’r blaen. Tydi hi – na deialog y gyrrwr a’r adeiladwr – ddim yn gwella o’i hail-glywed. Erbyn hyn, mae’r bobl o dros y ffordd wedi dod allan i sbio ar yr helynt, a gwneud sylwadau. Maen nhw’n dal yno wedi i’r lori fynd, ac yn dal i wneud sylwadau. Yr unig ddarn gobeithiol o’r sgwrs ydi “A’i neud panad, ia?” A maen nhw’n mynd, ac yr ydw i’n ail-gydio yn y llyfr sgwennu.

Pum munud o ail-ddarllen dros yr hyn sgwennais i ddoe, ac y mae rhyw syniad yn dechrau ymffurfio. A dwi’n dechrau sgwennu’r darn cymhleth, afrealaidd, sydd angen llawer iawn o ganolbwyntio i’w gael yn iawn. A dyna pryd mae’r dyn drws nesa yn penderfynu torri ei lawnt. A’r ddynas lawr y lôn yn gweiddi ar ei phlant. Ac ar ei gŵr…..

Dwi’n siwr bod deunydd stori fer yn yr argyfwng domestig uchod, ond tydi hi ddim yn un dwi am ei sgwennu. Ddim rwan, beth bynnag. Ydi, mae’r boen yn y cefn wedi diflannu yn y gadair braf a’r haul. Ond dwi’n hel y cyfan at ei gilydd: y gadair, y beiros, y pen sgwennu arbennig, y llyfr sgwennu, y sbectol, gweddillion y gwydryn lemoned (gnocis i hwnnw drosodd pan ddychrynwyd fi gan yr awyren oedd yn hedfan yn isel – sonis i am honno?). Dwi’n mynd yn ôl i’r tŷ. Mae’n bryd mynd i ganfasio. O leia, siawns ca’i lonydd yn fanno.

Leave a comment

Filed under Uncategorized

Ffŵl Ebrill … a Mai

Mae hyn yn hollol wirion. Cyhoeddi i’r byd fy mod am wneud rhywbeth a gofyn i bawb sy’n fy nilyn (ia, y ddau ohonach chi!) fy nwyn i gyfrif?

Ond mae’n dymor etholiad. Tymor yr addewidion. Gwahaniaeth ydi, dwi’n mynd i gadw at hwn.

Mae gen i ddeufis gweddol dawel. (O, oreit, anghofiwch am farcio arholiadau, cyfieithu llyfrynnau, mynd i siopa efo fy merch, cael gwyliau efo ‘nghymar tra’i fod o’n dal yn iach.. a’r dywededig etholiad). Gen i ddau fis i sgwennu.

Dwy fil o eiriau y dydd? A ‘nghyfarwyddwraig wedi dweud – “Nid drafftiau ydi rhain, naci?” Na. Dwi o’r diwedd wedi dod i sylweddoli fy mod i’n sgwennu’n araf. Yn fy mhen mae fy nrafftiau i. A phan ga’i nhw i lawr ar bapur o’r diwedd, maen nhw yno. Yn berffaith (mwy neu lai…)

Felly trigain mil o eiriau cyn diwedd Mai? Wnaiff fy mhlant mo ‘nal i gyfrif – (pryd darllenon nhw air sgwennais i erioed?).
Y cynnyrch gorffenedig dwi am roi iddyn nhw yn y Coleg.
Mae fy meirniad a’m cydymaith a’r un sy’n dallt be ydi bod yn sgwennwraig wedi mynd.
I Mam dwi’n sgwennu hyn.
Trigain mil o eiriau cyn diwedd Mai, Mam. Dwi ddim yn ffwl, nac ydw?

Leave a comment

Filed under Uncategorized

Ail-gladdu, a’r Ymgyrch Fer

Am fy mod yn gwneud gwaith weithiau i blaid wleidyddol, dwi’n gwybod mwy nac a ddylwn (a mwy nac sy’n dda i’m hiechyd) am yr Ymgyrch fer a’r Ymgyrch Faith a’r Dyddiadau Cau… o plis!
Diamau y gwna’i sgwennu am stwff gwleidyddol – yng nghyswllt fy sgwennu, wrth gwrs – dros yr wythnosau nesaf. Ond am rwan, dwi’n son am Ymgyrch Fer y nofel a’r thesis ac Ymgyrch Faith y nofel gyntaf.

Ymgyrch Fer i ddechra. Mae’r nofel yn mynd ei ffordd ei hun, sydd wastad yn arwydd da. Mae gen i gymeriadau annisgwyl yn dod i mewn ac yn ei gyrru i gyfeiriadau gwahanol. I gyfeiriadau anghyfforddus. Sydd yn dda, o safbwynt llenor.
A rwan dwi’n aros. Mae’r llenor yn mwynhau hyn. Mae’r sgwennwraig ofn am ei bywyd. Yr ydw i’n mynd yn rhy agos at fy mywyd fy hun, yr hyn baciais i’n gyfforddus i ffwrdd dros ddeng mlynedd yn ôl. Ond sydd yn hanfodol i’r gwaith dwi’n wneud rwan. Yr ydw i’n siarad wrthyf fy hun, yn dweud nad ydw i’n un person rwan. Nac ydw, debyg. Yn hŷn, yn fwy cytbwys, yn dawelach fy meddwl. Ond er hynny yn mynd yn ôl at bethau a phobl sydd angen sgwennu amdanynt, neu fydd y nofel, yr ymgyrch fer, ddim yn ddilys. Yn wythnos ail-gladdu Rhisiart y Trydydd, does arna’i ddim isio codi’r esgyrn arbennig hyn o’u bedd tawel. Ond dwi’n gwneud .

A’r Ymgyrch Hir. Dwi wedi arfer efo hon bellach, fel yr ydw i wedi arfer efo’r mantra gwleidyddol bod yn rhaid i chi ddeud yr un peth tua deunaw o weithiau iddo gael unrhyw effaith. Iawn, ond pan mai chi sydd yn cyfieithu’r cyfryw neges ddeunaw o weithiau….

Dwi’n teimlo fy mod wedi bod efo fy nofel gyntaf o leiaf ddeunaw o weithiau. Nid fy mod i’n ail-sgwennu – dwi ddim yn sgwennwraig sy’n sgwennu miloedd o ddrafftiau – un wnaiff y tro, a hwnnw wedi ei wasgu o’n hymenydd fesul gair, fesul llythyren weithiau – wir yr. Dyna pam dwi’n casau golygu. Ychwanegu, iawn – mi wnes i hynny, cyn anfon y gwaith gorffenedig yn ôl i’r wasg. Ond rwan, mae hi wedi gorffen. Yn fy meddwl i, sut bynnag, ac yr ydw i’n symud ymlaen, eisiau ei gadael ar ôl, i’w hynt, druan bach, beth bynnag fydd hynny. Cawn weld. Caiff ei chyhoeddi (os o gwbl) wedi’r etholiad. Ac erbyn hynny, mi fydda’i yn yr Ymgyrch Fer (yn wleidyddol ac yn llenyddol).

Leave a comment

Filed under Uncategorized

Geiriau’n sglefrio. A heno dwi’n hapus

Mae yna gymaint o eiriau wedi mynd. Sglefrio heibio ni i ddiddymdra. Ecriture feminine; hilariws; ol-foderniaeth; egwyddorion; hob y deri dando.

Dwi’n teimlo ias y genhedlaeth sydd wedi mynd, a does dim rhaid i mi eu henwi nhw. Ond heno dwi’n hapus. Oherwydd mae eu geiriau’n parhau – ac y mae geiriau yn ddylanwadol. Dyna pam yr oedd yr Undeb Sofietaidd yn carcharu beirdd, pam fod China yn sensro’r rhyngrwyd. Rydan ni’n ei chael hi’n haws yng Nghymru. Rydan ni’n cael dathliadau wedi eu cymeradwyo gan (Is-)Weinidogion a sefydliadau, a does neb yn son am y sgwennwyr go-iawn.

Ail-ddarllen beirniadaeth lenyddol. (Trist ta be?) Ond roedd John Rowlands yn llais yn erbyn unffurfiaeth. Sbio ar lyfr sy’n dathlu diwydiannaeth (John Davies yn dathlu Cymru gyfan, nid jest cefn gwlad fethedig, lle nad yw’r mwyafrif yn byw). Gwrando ar gân, a chyfryngau, a gweld teledu pan oedd y rhan fwyaf o Gymry heb symud y tu hwnt i noson lawen mewn rhyw dam sgubor yn rwla. Diolch, Mered.

Be naeth y bobl hyn? Y cewri sydd wedi mynd? Rhoi sbarc ym mywyd pobl iau. Gwneud iddyn nhw sylweddoli nad peth unffurf yw traddodiad, na ddaeth ein hanes i ben efo’r Tywysogion, a bod modd i athronydd gyfarwyddo rhaglenni teledu. Mae yna sgwennwyr sy’n herio Saundersiaith. Creir canolfan yng Nghaerdydd – ia – Caerdydd! – i’r Cymry. Ac y mae Cymry ifanc yn creu’r cyfryngau.
Rydan ni’n sglefrio oddi ar rew Ionawr a Chwefror i wyrddni cynnar y gwanwyn.

Leave a comment

Filed under Uncategorized

O’r lludw llwyd

Rydw i ddiwrnod yn hwyr, dwi’n cyfaddef, yn sgwennu hyn ar ddydd Iau, nid ar Ddydd Mercher y Lludw. Ond ddoe oedd dechrau’r Grawys, a dyma’r cyhoeddiad – DWI DDIM YN MYND I ROI’R GORAU I UNRHYW BETH!

Sori am weiddi, ond sgwennu fel Eglwyswraig yr ydw i, sydd yn eitha balch fod y Grawys wedi ei fabwysiadu gan seciwlariaid fel cyfnod i ymatal rhag rhywbeth, ond i mi, mae’n rhywbeth mwy. Ydw, rydw i wedi ymatal rhag pethau dros y Grawys cyn hyn – cof llachar am ymatal rhag alcohol y Grawys hwnnw y digwyddais fod ym Melfast, a theithio rownd clybiau Gweriniaethol, pawb a’i Ginis, a finna efo fy Nghoca-Cola yn fy llaw.(Roeddan nhw’n dallt y Grawys yn oreit, ond wir yn methu cael eu pennau rownd pam fod Protestant yn gwneud hyn…..)

Ta waeth. A derbyn bod y Grawys yn gyfnod i fyfyrio, dyma fi’n gwneud hynny. A meddwl am wneud rhywbeth mymryn mwy arwyddocaol na rhoi’r gorau i rywbeth er lles eich iau neu eich bol. A’m harweiniodd i feddwl wedyn – beth am addunedu GWNEUD rhywbeth, yn lle peidio, am y deugain niwrnod? Mwy cadarnhaol, sbosib?

Felly dyma addunedu i greu neu i weithio ar ddeugain darn o rywbeth llenyddol o hyn tan y Pasg. Tydw i ddim yn cyfrif ail nofel fy mhortffolio, na hyd yn oed y thesis am y dywededig bortffolio – mae hynny’n mynd i gael ei wneud hefyd. Wel, os diodda, diodda….. Dim ond y gic fach ychwanegol yna, y sbardun sydd arna’i ei angen i roi proc i’m diogi a’m cydwybod. Mi all fod yn unrhyw beth – yn ddarn meicro, yn adolygiad, yn stori, hyd yn oed yn gerdd (anhebygol, ond wyddoch chi byth). Neu hyd yn oed yn nodiadau ar waith sydd gen i mewn bocs enfawr yn y stafell ffrynt – llafur ymchwil Mam ar yr Hen Bersoniaid Llengar. Mi wna’i rywbeth am y campwaith hwnnw – er cof amdani hi, i’w ddwyn i olau dydd, ac i gynnau gwreichionyn o obaith o ludw llwyd ei cholli.

Leave a comment

Filed under Uncategorized

Swildod

Rhywbeth y sylwais arno mewn teyrnged i wleidydd o Dori yr wythnos yma. Dwi ddim yn un i ganmol Toriaid (moi?!)ond roedd na ddau beth yn y teyrngedau i Leon Brittan (ysgrifennydd cartra Magi am gyfnod, i’r rhai sy’n rhy ifanc i gofio). Pawb yn dweud mai fo, o bosib, oedd y mwyaf deallus ac ymenyddol ddisglair o’r Cabinet hwnnw: ac un a gyfeiriodd at y ffaith mai dyn eithriadol swil oedd o.
Disglair i ddechrau. Rwan, dwi o’r farn bod hyn yn eitha rhinwedd mewn gwleidydd. Sy’n esbonio fy lled-hoffter o Harold Wilson, un o’n Prif Weinidogion disgleiriaf, ar waethaf ei aml ffaeleddau). Well gen i gael pobl glyfar i ‘nghynrychioli. Ymddiheuriadau ( wel, na, actiwali, pam dylen i ymddiheuro i’r rhai sydd isio ‘pobol go-iawn’ i’w cynrychioli? Os ydyn nhw’n bobol go-iawn deallus a da, iawn. Os mai twpsod ydyn nhw, boed nhw o ysgol fonedd neu ysgol brofiad, ewch i ffwrdd a dysgu sut i sgwennu, siarad a rhesymu.) (Rant drosodd). Dwi ofn ein bod ni mewn cyfnod sy’n difrio deallusrwydd. ‘Twr ifori’; ‘academaidd’; ‘y mwyaf bregus’.. Delia’i efo rhain:
I) Twr ifori. Cyfeirio at brifysgolion fel arfer. Rwtsh. Mae prifysgolion yn delio efo’r byd go-iawn. Ond mae yna bobl sy’n gwneud ymchwil. Ran amlaf i bwrpas masnachol, weithiau er mwyn eahngu dealltwriaeth. Mae’n cyfoethogi cenedl. Mae ei angen. (Pa genedl, gynnoch chi hawl i holi, ond cwestiwn arall yw hwnnw.)
II) Academaidd. Ers pryd daeth hwn yn air difriol?
III) Y mwyaf bregus. Rhain ydan ni i fod i’w hamddiffyn. Cytuno. Ond sut mae gwneud hynny os nad oes gynnoch chi academwyr ac arbenigwyr i ddatrys eu problemau? A beth am y lleill – sydd ddim yn fregus, ond isio bwrw ymlaen a gyrfaoedd disglair i ddatrys picil y ‘mwyaf bregus’ a’u gwneud nhw’n llai bregus? Beth am roi mwy o sylw a phres iddyn nhw, am newid? Rhatach yn y tymor hir.

Dyna fi efo disgleirdeb. Roedd Leon Brittan yn wr disglair, dim dowt. Mi wnaeth gamgymeriad dros helynt gwleidyddol nad oedd neb yn ei gofio (Westland), ac mi heliwyd o allan. Ond dwi’n cofio ymadrodd amdano fo. “Rhy glyfar. Rhy Iddewig.”
Fedra’r dyn ddim newid y nail na’r llall. Run bai ar Kinnock (nid bod o’n glyfar, cofiwch). Rhy Gymreig – sy’n eironig, braidd……..

Ond yr ail beth. Roedd Brittan yn ddeallus.Ond doedd o ddim yn medru cyfleu ei hun yn dda. Roedd y dyn yn swil. Ddim yn ffitio i’r mold oedd yn ymddangos hyd yn oed yn yr wythdegau (Cofio Cecil Parkinson?) Ddim yn ddyn sownd beit. Ac mi aeth.
Ac i sgwennu rwan. Dwi inna’n swil. Well gin i gilio oddi wrth bobl. Oce, mi wnes i wleidydda am sbel (a’i fwynhau – ddelia’i efo hynny rywbryd eto!). Ond efo sgwennu – dwi jest isio sgwennu a mynd. “Deud fy lein a diflannu.” Ond cha’i ddim. Dwi’n blogio, trydar, darlledu rhoi fy hun allan yna. Neu fydd neb yn clywed. Gen i fwy o gyts na Brittan? Dwn i’m. Ond dwi’n meddwl mod i’n ei ddallt o.

Leave a comment

Filed under Uncategorized

Je suis Carlo Wsnos?

Charlie. Ahmned. Juif. Hawdd. Rhy hawdd, medd rhai, sy’n gwawdio sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol neu hashnod neu twibbon. Ond pa ddewis arall sydd gen i? Amser, arian a phellter yn golygu na fedra’i fod ym Mharis na Chaerdydd. Ond dwi’n sgwennwraig. Yn sgwennu am bethau gwleidyddol, yn aml, a nofel ar y gweill am wleidyddiaeth. Fydd rhai ddim yn ei hoffi. (Rhoswch nes darllenwch y sequel, buryddion!).
Ond y gwaetha dwi’n ragweld ydi adolygiadau beirniadol – fasa unrhyw adolygiadau yn neis! – a sylwadau anllythrennog ar Golwg 360.
Wnaiff neb gerdded i ‘nhŷ a’m saethu, na bygwth fy nheulu. Mi ga’i ddal i fyw fel Cymraes, cenedlaetholwraig a Christion.
Dwi wedi dweud weithiau mai’r ffordd i hybu llyfrau Cymraeg fasa eu gwahardd; mai’r petha gorau i beri i blant ysgol siarad Cymraeg fasa bychanu’r iaith yn yr ysgol (mi weithiodd i mi!), ac na fasa CarloWsnos yn ddrwg o beth o gwbl, faint bynnag o gynllunwyr iaith, ACau ac ASau a gweinidogion (crefyddol a gwleiddyol) fyddai’n cael eu pechu.
Ond yn y cyfamser, dwi’n sgwennu. Yn ail-wampio fy nofel wleidyddyol (o safbwynt llenyddol, nid i’w gwneud yn fwy gwleiddyol dderbyniol, ar waetha cyngor gwasg – honedig – wleidyddol i gael ‘ail stori, ysgafnach’ i gyd-fynd â’r wleidyddiaeth…..) A dwi’n bwrw ymlaen â’r llall, fydd yn cynnwys amrywiaeth o fathau o Gymraeg – safonaol, tafodiaethol, cywir – gwallus a -(llewygwch!) Saesneg.
Ga’i fy ngonhdemnio? Bosib. Ond dwi’n lwcus. Ga’i mo fy saethu.

Leave a comment

Filed under Uncategorized

Problemau Parcio – neu Sut i Ladd eich Plant

Wastad wedi meddwl nad oedd parcio’n broblem. Dwi’n meddwl i mi etifeddu dawn fy nhad wrth yrru car – roedd o’n hoffi mynd â’r car wysg ei gefn, a felly finna. Ond roedd hi’n anodd heddiw.

Peidiwch â phoeni, mae’r car yn saff yn y garej. Nid parcio’r Skoda ydi’r job – wedi’r cwbwl, dim ond ers pedair blynedd mae hwnnw gen i. Dwi wedi bod yn byw efo’r parciedig arbennig hwn ers llawer blwyddyn mwy na hynny, ond dwi ddim isio’i adael o. Neu hi.

Dwi wedi gorfod parcio nofel. Mae’r syniad sydd wedi bod yn berwi yn fy mhen ers blynyddoedd, ac y mae gen i ddigon o nodiadau a thudalennau ac erthyglau perthnasol a dolenni i wefannau i greu nofel yn syth bin tasa gin i fynadd a dwy flynedd i wneud dim ond sgwennu. (Ha ha!). Pan oeddwn i’n gwneud ymarferion sgwennu, darnau o’r nofel hon oeddwn i’n ddefnyddio. Pan ddeuai canmlwyddiannau, roeddwn yn gorfoleddu, am eu bod yn rhoi mwy o syniadau i mi. Pan awn i gyfieithu mewn llysoedd, roeddwn wrth fy modd am i mi gael y fath ddeunydd cyfoethog. Byddai eitemau newyddion yn fy nghyffroi, am y rhesymau gwaethaf – na, does dim ots gen i am y lladd, mae hyn yn ffitio mor wych i’r nofel. Roedd gen i hyd yn oed deitl.

Yn sydyn, yn y Steddfod, mi sylweddolais. Na, ddaw hon ddim rwan. (Steddfod ddim byd i neud â’r peth, a deud y gwir, ond mod i’n cael amser i feddwl yno, a sôn am sgwennu.) Roedd o wedi bod yn gwawrio ers tro byd taswn i’n onest – ond pryd mae nofelydd fyth yn onest? Taswn i wedi’i sgwennu hi’n gynt, mi fasa’n ffres – ond mae cymaint o awduron wedi bachu ar yr un syniad….. Fy mai i am ddewis pwnc sy’n digwydd bod yn y newyddion rwan. Taswn i wedi ei sgwennu hi llynedd, leni (ond mi fydd yn dal yn berthnasol ymhen pedair blyneddd, siwr?) Bydd. A phawb arall wedi sgwennu am y pwnc hyd at syrffed.

Tydw i ddim yn sôn am y pwnc. Ddim yn crybwyll y teitl. Er i mi y pnawn yma hel pob sgrapyn o nodiadau, clirio’r dolenni o’m ffefrynnau, claddu’r cwbl mewn ffeil a’i chadw yn dwt yn y cwpwrdd. Tydw i ddim yn mynd i sgwennu’r nofel hon. Ddim rwan. Ddim byth, o bosib. Ond wrth gwrs, yn y cwpwrdd mae’r ffeil. Ddim yn y bin. Ddim ar y goelcerth. Ddim yn yr ailgylchu. (Wel, ddim ym mocs glas Cyngor Gwynedd, sut bynnag).

Ailgylchu? Mi wnaeth Lleucu Roberts hynny yn orfoleddus lwyddiannus yn y Steddfod eleni, a phob clod iddi. Tydi fy egin-epig i ddim wedi mynd mor bell a chael ei chwblhau, heb sôn am ei chyflwyno i unrhyw feirniad am y tro cyntaf, hyd yn oed.

“Parcia hi” oedd cyngor fy nghymar. Ac am unwaith, dwi’n gwrando arno fo. Mae lleisiau bach eraill yn mynnu fy sylw. Mae gen i waith ar y gweill; mae gen i waith wedi ei gwblhau. A dwi wedi ei pharcio, heb na tholc na thicad.

“Kill your darlings”. Dwi newydd neud hynny. A dwi’n mynd nôl at y gwaith datblygedig, yn teimlo fel llofrudd – sydd wedi cael getawê.

Am y tro.

Leave a comment

Filed under Uncategorized