Monthly Archives: June 2014

Lle gynt y rhedwn…

Hyn yn beth newydd i mi. Golygu fy ngwaith fy hun, ychwanegu ato a thynhau – nid yn yr ystyr o ddarllen proflenni neu wneud mân gwiriadau, ond gweithredu ar argymhellion ac awgrymiadau, gwyro fy nghymeriadau i gyfeiriadau gwahanol. Mae’n anodd. Yn enwedig gan fy mod eisoes yn sgwennu fy ail nofel, ac wedi rhoi’r gyntaf yn y categori “gorffenedig”, ac isio symud ymlaen.

Ond mae’n ddisgyblaeth dda. Mwy o’u storiau nhw i gyd. Ond dwi’n gwybod eu storiau nhw! medda fi. Ydw, ond roeddwn i mor ofnus o or-lenwi fy nofel â’r ymchwil cychwynnol fel nad ydw i wedi datgelu digon….. Felly dwi’n gwneud un cymeriad yn fwy secsi (roedd o’n secsi iawn eisoes yn fy meddwl i, a wna’i ddim dweud ar pa gyd-fyfyriwr o ‘nghwrs y gwnes i ei fodelu o…….) Dwi hyd yn oed wedi mynd yn ôl at enedigaeth un o ‘nghymeriadau. A dyddiau coleg un arall. A sgwrs rhwng rhieni un arall, a tydi’r rhieni ddim hyd yn oed yn ymddangos yn y nofel ei hun, blaw am grybwyll un enw.

Swnio’n ddiddorol? Wel, mi all fod, ond dwi fel malwen mewn triog trwy hyn i gyd: mae fy meddwl yn llawn o’r nofel nesa, a dwi isio rhedeg ymlaen efo honno.Ond yn rhodio efo hon yn lle.

O wel, mae’n well na’r gwaith bob-dydd, am wn i – o leia does dim rhaid i mi fod yn eistedd adre yn disgwyl am friwsion o fwrdd sefydliadau sy’n rhan o’r Fframwaith Cyfieithu – briwision gaiff eu sgubo’n ôl at y cwmniau mawr yn ddigon sydyn pan welan nhw mod i’n codi pris rhesymol o deg am fy ngwaith.

Nôl i rodio, felly…….

Leave a comment

Filed under Uncategorized