Problemau Parcio – neu Sut i Ladd eich Plant

Wastad wedi meddwl nad oedd parcio’n broblem. Dwi’n meddwl i mi etifeddu dawn fy nhad wrth yrru car – roedd o’n hoffi mynd â’r car wysg ei gefn, a felly finna. Ond roedd hi’n anodd heddiw.

Peidiwch â phoeni, mae’r car yn saff yn y garej. Nid parcio’r Skoda ydi’r job – wedi’r cwbwl, dim ond ers pedair blynedd mae hwnnw gen i. Dwi wedi bod yn byw efo’r parciedig arbennig hwn ers llawer blwyddyn mwy na hynny, ond dwi ddim isio’i adael o. Neu hi.

Dwi wedi gorfod parcio nofel. Mae’r syniad sydd wedi bod yn berwi yn fy mhen ers blynyddoedd, ac y mae gen i ddigon o nodiadau a thudalennau ac erthyglau perthnasol a dolenni i wefannau i greu nofel yn syth bin tasa gin i fynadd a dwy flynedd i wneud dim ond sgwennu. (Ha ha!). Pan oeddwn i’n gwneud ymarferion sgwennu, darnau o’r nofel hon oeddwn i’n ddefnyddio. Pan ddeuai canmlwyddiannau, roeddwn yn gorfoleddu, am eu bod yn rhoi mwy o syniadau i mi. Pan awn i gyfieithu mewn llysoedd, roeddwn wrth fy modd am i mi gael y fath ddeunydd cyfoethog. Byddai eitemau newyddion yn fy nghyffroi, am y rhesymau gwaethaf – na, does dim ots gen i am y lladd, mae hyn yn ffitio mor wych i’r nofel. Roedd gen i hyd yn oed deitl.

Yn sydyn, yn y Steddfod, mi sylweddolais. Na, ddaw hon ddim rwan. (Steddfod ddim byd i neud â’r peth, a deud y gwir, ond mod i’n cael amser i feddwl yno, a sôn am sgwennu.) Roedd o wedi bod yn gwawrio ers tro byd taswn i’n onest – ond pryd mae nofelydd fyth yn onest? Taswn i wedi’i sgwennu hi’n gynt, mi fasa’n ffres – ond mae cymaint o awduron wedi bachu ar yr un syniad….. Fy mai i am ddewis pwnc sy’n digwydd bod yn y newyddion rwan. Taswn i wedi ei sgwennu hi llynedd, leni (ond mi fydd yn dal yn berthnasol ymhen pedair blyneddd, siwr?) Bydd. A phawb arall wedi sgwennu am y pwnc hyd at syrffed.

Tydw i ddim yn sôn am y pwnc. Ddim yn crybwyll y teitl. Er i mi y pnawn yma hel pob sgrapyn o nodiadau, clirio’r dolenni o’m ffefrynnau, claddu’r cwbl mewn ffeil a’i chadw yn dwt yn y cwpwrdd. Tydw i ddim yn mynd i sgwennu’r nofel hon. Ddim rwan. Ddim byth, o bosib. Ond wrth gwrs, yn y cwpwrdd mae’r ffeil. Ddim yn y bin. Ddim ar y goelcerth. Ddim yn yr ailgylchu. (Wel, ddim ym mocs glas Cyngor Gwynedd, sut bynnag).

Ailgylchu? Mi wnaeth Lleucu Roberts hynny yn orfoleddus lwyddiannus yn y Steddfod eleni, a phob clod iddi. Tydi fy egin-epig i ddim wedi mynd mor bell a chael ei chwblhau, heb sôn am ei chyflwyno i unrhyw feirniad am y tro cyntaf, hyd yn oed.

“Parcia hi” oedd cyngor fy nghymar. Ac am unwaith, dwi’n gwrando arno fo. Mae lleisiau bach eraill yn mynnu fy sylw. Mae gen i waith ar y gweill; mae gen i waith wedi ei gwblhau. A dwi wedi ei pharcio, heb na tholc na thicad.

“Kill your darlings”. Dwi newydd neud hynny. A dwi’n mynd nôl at y gwaith datblygedig, yn teimlo fel llofrudd – sydd wedi cael getawê.

Am y tro.

Leave a comment

Filed under Uncategorized

Leave a comment